Estyn Ymestyn, Y Plot Plwc a’i Fagnet

Carousel,-Pull-Plot900x600welshAr PLOT PLWC mae cartref tylwyth
sydd yn hyblyg iawn ac ystwyth.

Mae’r plot, sy’n hir ac yn FAGNETIG,
yn siwtio’r tylwyth YMESTYN elastig.

Maent yn gwisgo dillad slac
sydd wedi eu gwnïo gyda thacs
allan o linynnau rwber
yn arbennig ar eu cyfer.

Nid oes gan y teulu feltiau,
unrhyw ddillad tynn na byclau.

Mae tîm bêl-loyw ‘Pecyn Estyn’
â chapten cyfrwys sy’n ymestyn.

Enw’r capten slic yw ESTYN,
sydd yn fab i’r teulu YMESTYN.

Ni wna Estyn chwarae’n deg.
Mae ganddo fodrwy sy’n fagnetig.

Pan fydd Estyn yn ei gwisgo,
bydd hyn yn helpu Estyn i dwyllo.

Wrth i Estyn fflachio’i fodrwy,
dywed, “Rydw i yn anghredadwy!”

Mae e’n hoff o eiriau hir
fel ‘anghredadwy’, sydd ac ystyr clir,
sef ‘anhygoel’ – gair sy’n rhwydd.
Wel, gweddol rwydd, fel mae’n digwydd.

Ar adegau, rhaid i Estyn guddio
rhag gair hir fel ‘canolbwyntio’
er ei fod e’n hoff o eiriau hir.
Ond mae’r rheswm yn reit glir …

Bydd Estyn Ymestyn wedi cafflo
heb un esgus am ei frolio.

“Fedra’i ruthro mor chwim a mentrus,”
meddai Estyn, “fel cart rasys.”

Chwarddodd pawb wrth iddo ddweud
bod hyn y tu mewn i gart, heb symud.